Llun o Nia Purslow

Nia Purslow

Cafodd Nia Purslow ei geni a'i magu yng Ngorllewin Cymru. Bellach yn byw ym mhentref gwledig Bethania, mae hi ar hyn o bryd yn astudio gradd Baglor yn y celfyddydau creadigol ac yn ogystal ag arlunydd, mae hi'n awdur cyhoeddedig. Taniodd ei chariad at baentio o archwilio celf yn ei holl ffurfiau, ac ar ol bod yn gantores-gyfansoddwr ers oedran ifanc, roedd ei dawn creadigol eisoes yn bodoli. Mae hi'n mwynhau paentio haniaethol gydag acrylig yn arbennig, ac yn aml mae'n defnyddio lliwiau llachar a bywiog yn ei gwaith. Mae hi wedi arbrofi gyda thirwedd a rhaeadrau fel themau blaenorol, y mae llawer ohonynt wedi'u gwerthu, tra hefyd yn ymgorffori thema reggae yn ei gwaith, gan ei fod yn un o'i hoff genres cerddoriaeth. Mae Nia yn dibynnu ar ei hemosiynau a'i greddf i'w cario drwy'r siwrnai baentio nes bod y darn wedi'i greu.

Yn ei geiriau ei hun, mae'n mynegi: 'Rwy'n credu nad oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o ran celf, mae'n rhan ohonom ein hunain rydyn ni'n dewis rhannu gyda'r byd, rhyddid mynegiant. Dyna'r harddwch ohono. Mae paentio i fi yn ddihangfa o'r byd anhrefnus hwn.'

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.