Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon

Oriau Agor:

Ebrill – Medi, Mawrth i Sadwrn, 9.30 – 5.30
Hydref - Rhagfyr, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 5.00
Ionawr 10fed - Ionawr 31ain:
    Mawrth & Mercher, drwy apwyntiad a chloch y drws yn unig, 10.00 – 4.00
    Iau i Sadwrn, 10.00 – 4.00
Chwefror - Mawrth, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 4.00

Ar gau ar Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, rhwng Dydd Calan a Ionawr 9fed, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Byddwn ni hefyd yn agor yn hwyr ar rai adegau yn ystod yr haf - galwch yn ôl neu ddilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon - llyfrau

Lleolir Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon o fewn Canolfan Rhiannon, sydd yng nghalon tref fechan Gymreig Tregaron, yng nghanol golygfeydd ysblennydd cors Caron a Mynyddoedd Cambria. Dewch o hyd i ni yma. Mae'r Ganolfan yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain. Sefydlwyd y ganolfan ym 1971 gan Rhiannon Evans, dylunydd gemwaith sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o'r traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd.

Mae Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon yn drysorfa o grefftau cain, nwyddau cartref unigryw a bwydydd lleol blasus. Mae ein crefftau i gyd wedi eu gwneud mor lleol â phosib, ac nid ydym yn cadw gwaith masgynyrchedig nac wedi’i fewnforio. Ymdrechwn i gynnal yr ystod gorau o grefftau safonol unrhywle yng Nghymru, o gofroddion heddiw i ddarnau etifeddol y dyfodol. Galwch i mewn i'n gweld: cewch groeso cynnes a chyfeillgar!

Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon - gwirodydd

Mae Canolfan Rhiannon yn cynnwys amrywiaeth o atyniadau eraill hefyd. Gallwch chi wylio gemwaith yn cael ei wneud â llaw yn ein gweithdai arddangos gan ein gofaint arian ac aur, gan ddefnyddio Aur Cymru prin a gwerthfawr a gloddiwyd ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y gogledd; chwilio am eich darn cyntaf o gelfyddyd, neu ychwanegu at eich casgliad o weithiau Cymreig yn ein Oriel celfyddyd gain; neu ymlacio yn y caffi gyda'i iard hardd a diarffordd. Mae cyfle hefyd i bori drwy ein Amgueddfa o greiriau Celtaidd sy'n dilyn esblygiad celfyddyd y Celtiaid hyd at heddiw.

Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon - cardiauCanolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon - bwydydd