Oriel Rhiannon

Oriau Agor:

Ebrill – Medi, Mawrth i Sadwrn, 9.30 – 5.30
Hydref - Rhagfyr, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 5.00
Ionawr 10fed - Ionawr 31ain:
    Mawrth & Mercher, drwy apwyntiad a chloch y drws yn unig, 10.00 – 4.00
    Iau i Sadwrn, 10.00 – 4.00
Chwefror - Mawrth, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 4.00

Ar gau ar Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, rhwng Dydd Calan a Ionawr 9fed, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Byddwn ni hefyd yn agor yn hwyr ar rai adegau yn ystod yr haf - galwch yn ôl neu ddilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Ewch i ymweld â gwefan Oriel Rhiannon drwy glicio yma

Oriel Rhiannon - Y Gornel, am y banc

Lleolir Oriel Rhiannon o fewn Canolfan Rhiannon, sydd yng nghalon tref fechan Gymreig Tregaron, yng nghanol golygfeydd ysblennydd cors Caron a Mynyddoedd Cambria. Dewch o hyd i ni yma. Mae'r Ganolfan yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain. Sefydlwyd y ganolfan ym 1971 gan Rhiannon Evans, dylunydd gemwaith sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o'r traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd.

Mae'r Oriel wrth graidd y Ganolfan ac mae'n arbenigo mewn artistiaid Cymraeg a rhai sy’n byw yng Nghymru. Mae'r mannau arddangos yn hardd ac yn cynnig ffenestr arddangos ar gyfer y celfyddydau gweledol, ac mae rhaglen arddangos yr Oriel yn cyfuno sioeau unigol a rhai grwp mewn amrywiaeth o gyfryngau. Mae'r Oriel ar agor yn ystod oriau agor y Ganolfan: cewch groeso cynnes a chyfeillgar!

Oriel Rhiannon - Y Gornel, am y Talbot

Os ydych chi'n chwilio am eich darn cyntaf o gelfyddyd, neu eisiau adeiladu casgliad o weithiau Cymreig, mae'r Oriel yn edrych ymlaen at eich croesawu.

Mae'r Ganolfan yn cynnwys amrywiaeth o atyniadau eraill hefyd. Gallwch chi wylio gemwaith yn cael ei wneud â llaw yn ein gweithdai arddangos gan ein gofaint arian ac aur, gan ddefnyddio Aur Cymru prin a gwerthfawr a gloddiwyd ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y gogledd; prynu eitemau hardd o ansawdd uchel o'n siop grefftau; neu ymlacio yn y caffi gyda'i iard hardd a diarffordd. Mae cyfle hefyd i bori drwy ein Amgueddfa o greiriau Celtaidd sy'n dilyn esblygiad celfyddyd y Celtiaid hyd at heddiw.

Oriel Rhiannon - Yr Atriwm, wal y swyddfaOriel Rhiannon - Yr Atriwm, wal yr Amgueddfa