Llun o Charlotte Baxter

Charlotte Baxter

Mae Charlotte yn teimlo atyniad y byd naturiol, gan archwilio ei rythmau a'i gylchredau yn ei gwaith, yn ogystal â harddwch deinamig, byrhoedlog y dirwedd.

Mae dal ysbryd neu hanfod lle yn arbennig o bwysig iddi, yn ogystal â chyfleu ymdeimlad o symudiad a bywyd yn ei darnau. Gan ddatblygu syniadau o'r daliadau Celtaidd hynafol am y byd naturiol, mae hi'n ymdrechu i grisialu'r cysylltiad sydd gennym â'r dirwedd, a'r symbolaeth a'r ystyr a geir ynddo.

Mae hi'n cael ei thynnu'n arbennig at lefydd lle mae d?r yn cwrdd â'r tir, ac mae ei chariad at y môr a syrffio yn rhoi cyfle iddi brofi ac ymgolli yn arfordir Cymru mewn ffordd amgen - rhywbeth sydd wedi cael dylanwad ar ei gwaith heb os.

Mae Charlotte yn gweithio'n bennaf gyda thorluniau leino a phren, ac mae'r broses o wneud printiau ei hun yn dylanwadu'n fawr ar ei gwaith, gyda phob elfen yn dod â'i chyfleoedd cyffrous ei hun. Yn gyntaf mae'r broses, gerfluniol bron, o dorri'r blociau. Mae hi'n defnyddio amrywiaeth o offer mân i dorri i ffwrdd a datgelu'r ddelwedd - yn aml yn gweithio â llaw rydd ar y pwynt hwn i ychwanegu gwead a phatrwm gan ddefnyddio'r marciau c?n naturiol a wneir gan yr offer. Os yw'n defnyddio pren ar gyfer ei bloc, bydd y graen yn aml yn dod yn rhan annatod o'r ddelwedd ac mae'n ennyn atgofion o dreigl amser a chylchoedd y tymhorau. Yna bydd yn incio'r bloc gan ddefnyddio rholer, ac yn newid trwch a thryloywder yr inc i greu effeithiau diddorol ac amrywiol. Ychwanegir haenau trwy argraffu ar ben y print cychwynnol gan ddefnyddio blociau ychwanegol (aml-floc) neu trwy dorri mwy o'r un bloc i ffwrdd, cyn argraffu eto â lliw gwahanol (dull lleihau).

Astudiodd Charlotte Ddylunio Ffasiwn a bu'n gweithio fel dylunydd am rai blynyddoedd cyn dychwelyd i'w chartref gwreiddiol, sef Llangwyryfon. Yn ystod yr amser hwn, ailddarganfddodd ei chariad at wneud printiau ac mae hi bellach yn gweithio o'i stiwdio yn cynhyrchu printiau thorlun leino a phren.

Darnau Nodweddiadol

Llun o 'Adlewyrchiad' Llun o 'Llonyddwch '

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.