Llun o Julia Elliott

Julia Elliott

Er fy mod wedi cael fy ngeni yn Ne Affrica, treuliais fy mhlentyndod ar bysgodfa frithyll yn y New Forrest cyn dychwelyd i fynd i ysgol Celf Johannesburg yn dair ar ddeg oed. Unwaith yn ôl yn y Deyrnas Unedig mynychais gwrs sylfaenol Celf yng Nghaer a bwrw ymlaen i arbenigo mewn Darlunio a Dylunio yn Southampton.

Gwnaeth gyrfa ym maes darlunio a dylunio fy anfon o amgylch y wlad, a weithiau dramor: anfonwyd darn o fy ngwaith, ar y cyd ag Arthur C Clark yn 2001, i NASSA, ac aeth ar fwrdd y Wennol Ofod i'r Orsaf Ofod Ryngwladol!

Wedi dadrithio gyda'r Diwydiant Dylunio, treuliais 9 mlynedd wedyn yn rhedeg teithiau antur Ffilm a Ffotograffiaeth - Saffarïau yn Affrica yn bennaf cyn dod i ymgartrefu yng Nghymru. Cerflunio serameg oedd fy nghariad cyntaf, rwy'n cofio cael clai i chwarae ag ef pan oeddwn tua 7 oed, a gwneud tylluan! Ers hynny, er fy mod i wedi astudio a gweithio'n llwyddiannus mewn meysydd eraill, cerameg yw fy hoff gyfrwng i droi ato o hyd.

Mae fy ngwaith presennol mewn racw â chopr mygedig yn uchafbwynt taith a ddechreuwyd dros 15 mlynedd yn ôl, pan benderfynais wneud gyrfa amser llawn o gerfluniaeth. Gan ddechrau gyda ffigurynnau cynrychioladol a lliwgar iawn, darganfyddais fod angen i mi, cyn gynted ag yr oeddwn wedi meistroli sgil, osod her arall. Treuliais amser yn gwneud cerfluniau o anifeiliaid anwes pobl, a roddodd y sgiliau i mi i greu cymeriad a symudiad ym mhopeth o gathod i ceffylau sioe.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi symud i ffwrdd o waith cynrychioliadol, ac wedi dod yn fwy arddulliedig. Gwthio ffiniau'r clai, i greu coesau hirach, ystumiau mwy deinamig ac ati. Er fy mod yn dal i gadw o fewn yr arddulliau ffigurol dwi'n eu caru, bu'n rhaid i mi newid y clai dwi'n ei ddefnyddio. O'r diwedd deuthum o hyd i ddeunydd sydd yn rhoi'r hyblygrwydd a'r cryfder yr oeddwn ei angen, yn ogystal â'r gallu i wrthsefyll sioc thermol y broses racw.

Yn fy ngherfluniaeth dwi'n gobeithio creu ymateb yn y gwyliwr, o'r chwareusrwydd digrif a drwg mewn poni arddull Thelwell, i gryfder brenhinol a dibynadwyedd ceffyl gwedd. O ysfa hela'r bytheiad, i gariad ac addoliad spaniel.

Ychwanegodd copr mygedig y rhinwedd olaf, ryfeddol, afreolus yr oeddwn wedi bod yn edrych amdani yn fy ngwaith, popeth o liwiau tawel ysgafn i derfysg lliw llawn. Mae ei natur hynod o anodd ac anwadal wedi dal fy niddordeb yn gyson a dwi'n ei ffeindio'n boenus bron, y dyddiau hyn, gorfod gadael fy stiwdio a rhoi sylw i angenrheidiau eraill bywyd!

Mae fy stiwdio wedi'i leoli ym mynyddoedd prydferth Gogledd Cymru, ond yn aml byddaf i'm gweld mewn sioeau ledled y wlad.

Darnau Nodweddiadol

Llun o 'Saluki yn Hedfan!' Llun o 'Ceffyl Gwedd yn Neidio'

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.