Llun o Sam Cooper

Sam Cooper

Rwy'n byw ar ffin Cymru a Lloegr ger Croesoswallt ac yn cynnig fy ngwasanaethau yn fyd-eang. Cefais fy magu yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog ac rwyf wrth fy modd gyda'r awyr agored.

Mae fy arddull ffotograffig yn amrywio’n aruthrol, o bortreadau stiwdio du a gwyn i chwaraeon eithafol awyr agored. Fy angerdd gwirioneddol yw bod yn yr awyr agored a gweld bywyd gwyllt prin pan nad oes neb arall o gwmpas. Ar yr un pryd, rwyf wrth fy modd yn rhyngweithio â phobl a dysgu am eu syniadau, eu prosiectau, a thrawsnewid y rhain yn ddarn gorffenedig drwy adrodd straeon gweledol. Wrth dynnu lluniau o dirluniau, rwy’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau i geisio cynrychioli nid yn unig yr olygfa, ond y teimlad o sefyll yn y gofod hwnnw.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.