Llun o Ian Phillips

Ian Phillips

Yn 2001 symudodd Ian i ffwrdd o yrfa fel darlunydd yn Llundain i fyw yng Nghanolbarth Cymru lle gallai astudio'r dirwedd wledig. Wedi’i ddylanwadu’n gryf gan y dull Japaneaidd o wneud printiau, aeth Ian ati i greu cyfresi dilyniannol o brintiau torlun leino o tirweddau a morluniau ar raddfa fawr gan ddefnyddio’r holl dechnegau yr oedd wedi’u dysgu dros y blynyddoedd ers hynny. Meithrinwyd y technegau hyn mewn nifer o wahanol leoedd gan gynnwys preswyliad gydag artistiaid o Ynysoedd Culfor Torres yng Ngweithdy Print Djumbunji yn Cairns, astudio gyda’r Athro Wang Chou yn Hangzhou, Tsieina a gweithio gyda chydweithredwyr Pine Feroda yn Nyfnaint.

Mae Ian wedi arddangos ei waith yn eang ym Mhrydain yn ogystal â dangos yn Hong Kong, Japan a'r Unol Daleithiau. Mae ei waith mewn casgliadau parhaol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Senedd y DU.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.