Sioe Paul Croft

Bydd arddangosfa ôl-syllol o brintiau Paul Croft yn cael ei chynnal yn yr Oriel yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Cymhwysodd Paul fel Meistr Argraffydd o Sefydliad Lithograffeg byd-enwog Tamarind yn 2007 ac mae’n dysgu yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Mae’r sioe yn argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau blwyddyn yr Oriel.

Bydd darnau celf yr arddangosfa i gyd ar werth drwy siop Rhiannon, ond gofynnwn yn garedig i chi am gael eu cadw tan ddiwedd cyfnod y digwyddiad. Cysylltwch dros y ffôn ar +44(0) 1974 298 415, neu drwy e-bost at am fwy o fanylion.