Sioe Nadolig 2021

Bydd ein Sioe Grŵp Nadolig yn rhedeg yn yr Atriwm a'r Brif Oriel yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr, o ddydd Sadwrn y 6ed o Dachwedd 2021 i ddydd Sadwrn y 29ain o Ionawr 2022. Bydd yr arddangosfa'n cynnwys casgliad o luniau a serameg gan arlunwyr yr Oriel. Dewch i brynu’r anrheg Nadolig berffaith o'r arddangosfa ei hun neu o’n Canolfan Grefftau, a mwynhau pryd o fwyd neu baned yn Nghaffi Hafan i gwblhau’r profiad!

Bydd darnau celf yr arddangosfa i gyd ar werth drwy siop Rhiannon, ond gofynnwn yn garedig i chi am gael eu cadw tan ddiwedd cyfnod y digwyddiad. Cysylltwch dros y ffôn ar +44(0) 1974 298 415, neu drwy e-bost at am fwy o fanylion.