Sioe Paul Croft - Agoriad Swyddogol

Agoriad Swyddogol

Bydd arddangosfa ôl-syllol o brintiau Paul Croft yn cael ei chynnal yn yr Oriel yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Cymhwysodd Paul fel Meistr Argraffydd o Sefydliad Lithograffeg byd-enwog Tamarind yn 2007 ac mae’n dysgu yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Mae’r sioe yn argoeli i fod yn un o uchafbwyntiau blwyddyn yr Oriel.