Agoriad Swyddogol - Sioe Flora McLachlan

Dewch ac ymuno ni ar Ddydd Sadwrn, 22ain Ebrill am 2.30 y.p. i fwynhau pori'r arddangosfa gyda gwydraid o win.

Mae'r Oriel yn croesawu Flora McLachlan ar gyfer y ei sioe gyntaf. Dewch i weld lluniau sy'n deillio o'i dychymyg, y tirwedd a'i hymdeimlad o fytholeg bersonol.

Mae Flora yn byw ar gyrion rhostir Y Preselau ac yn gwneud ysgythriadau a lithograffau. Mae hi’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr-Printwyr, yn aelod o Academi Frenhinol Cambria, ac mae ganddi MA mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth.

Bydd darnau celf yr arddangosfa i gyd ar werth drwy siop Rhiannon, ond gofynnwn yn garedig i chi am gael eu cadw tan ddiwedd cyfnod y digwyddiad. Cysylltwch dros y ffôn ar +44(0) 1974 298 415, neu drwy e-bost at am fwy o fanylion.