Lansio Llyfr "Ysbryd Ystrad Fflur"

Yng nghyfrol Ysbryd Ystrad Fflur, a gyhoeddwyd gan Gwasg Gwynfil, cawn eto gyfuniad o gelf, cerdd a hanes sydd y tro hwn yn canolbwyntio ar hanes a thirwedd Ystrad Fflur. Dyma’r ail mewn cyfres o lyfrau sy’n cyfuno arbenigedd yr awduron David Austin, Cyril Jones a Philip Huckin er mwyn creu cyfanwaith unigryw. Ysbrydolwyd y gyfrol gan bwysigrwydd cynhenid Ystrad Fflur i Gymru a’r Cymry. Mynegiant aml-gyfrwng o naws y lle a’i ddylanwad ar ein hanes ar hyd y canrifoedd.

Bellach mae dwy flynedd wedi pasio ers cyhoeddi llyfr cyntaf y gyfres, Hud Afon Arth, ac erbyn hyn mae’r tri yn adnabod ei gilydd yn dda iawn. Gwelir ôl y berthynas arbennig hwn rhwng hanesydd, artist a bardd yn y gwaith, ill tri yn ysbrydoli’r lleill drwyddi draw ac yn ategu at eu neges i roi cyd-destun hanesyddol, gweledol a llenyddol i’r gyfrol Ysbryd Ystrad Fflur.

Ers llwyddiant y gyfrol Hud Afon Arth mae Philip, Cyril a David wedi cael blas ar gydgerdded yr hen lwybrau. Mae cyfuniad yr ysgrifau gan David, y gwaith celf gan Philip a’r barddoniaeth gan Cyril yn cryfhau’r cyswllt rhwng y ffeithiol a’r creadigol i greu llyfr arbennig unwaith eto.

Mwynhewch y profiad o bori ynddo ac ymunwch â’r tri ar eu taith ar hyd tir a thrwy hanes Ystrad Fflur.