Arddangosfa Ystrad Fflur

Mae hanes cryno Ystrad Fflur yn dweud wrthym mai safle hen fynachlog Sistersaidd ydyw a oedd o bwysigrwydd dirfawr i Gymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Hyd yn oed heddiw mae gan y lle, ei hanes hir a’i dirweddau arwyddocâd mawr i bobl Cymru a’u diwylliant.

Mae adfeilion ei eglwys a rhan o’r clwystai a ddiogelwyd yng ngofal Cadw, asiantaeth dreftadaeth Llywodraeth Cymru, ac mae modd i’r cyhoedd ymweld â nhw. Dyma leoliad Prosiect Ystrad Fflur hefyd lle caiff gwaith ymchwil, cadwraeth a datblygu ei gyflawni gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn dilyn gwaith gan archeolegwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Tan diwedd yr haf, mae Canolfan Rhiannon yn ffodus iawn i fod yn medru gwesteia arddangosfa o hanes a hynodion Ystrad Fflur.