Llun o John Dickinson

John Dickinson

Rwy'n ceisio creu ffurfiau naturiol yn fy ngherfluniau er mwyn iddyn nhw awgrymu llawer o bethau. Yn aml, pethau gwahanol i wahanol bobl, er mae yna eithriadau. Er bod fy ngherflunwaith yn haniaethol, nid wyf yn ymwrthod pan fydd gwaith yn symud tuag at rywbeth mwy ffigurol - er enghraifft, pan fydd ffigwr neu law yn ymddangos. Mae fy ngwaith yn reddfol. Byddaf yn dechrau gyda blocyn o bren weithiau, cynfas gwag i mi, a fy her yw ei wneud yn ddiddorol. Dro arall efallai y byddaf yn dechrau gyda darn o bren sydd â nodwedd ddiddorol iddo yn barod, ac yna fy her yw ymestyn y diddordeb hwnnw trwy ychwanegu mwy. Rwy'n defnyddio trofwrdd, a luniais o gadair olwyn wedi'i thaflu i ffwrdd, er mwyn ystyried fy ngwaith o bob cyfeiriad wrth i mi geisio creu diddordeb o bob ongl. Rwy'n gobeithio y bydd fy ngherfluniau yn cynhyrfu'ch dychymyg.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.