Llun o Sarah Jones

Sarah Jones

Dw i'n arlunydd cyfryngau cymysg sy’n paentio'r tirwedd lle dw i'n byw. Mae fy ngwaith yn cael ei ysbrydoli gan y newidiadau tymhorol yn yr amgylchedd drwy gydol y flwyddyn. Dw i'n canolbwyntio ar sut mae'r tirwedd, ei ffurfiau, ei wead a’i batrymau, ynghyd â'r awyr-gylch a grëir gan y tywydd yn gwneud i mi deimlo.

Credaf fy mod yn teimlo math o hud pan dwi’n rhan o'r tirwedd, a'r cysylltiad hwn sy’n fy nghymell a'm gwreiddio mewn bywyd.

Eisteddaf yn rhywle gyda'm llyfr braslunio, fy mhennau, fy pensiliau, a’m paent, a gadael i'm teimladau arwain beth a sut dw i'n cofnodi’r lle. Dw i'n cyfeirio yn ôl at y brasluniau hyn wrth greu’r darluniau wedi dychwelyd i'r stiwdio. Dw i'n taenu’r haenau cyntaf o baent mewn ffordd reddfol ac yna’n gadael i'r tirwedd esblygu o’r haenau cyntaf hyn. Mae hyn yn gadael rhannau o’r darlun lle mae hanes ac emosiwn y paentio greddfol yn di-sgleirio drwyddo. Gobeithiaf bod y sylwedydd yn gallu dirnad yn fy ngwaith peth o’r siwrnai honno o ymgysylltu â’r tirwedd.

Dw i'n byw yng nghefn gwlad canolbarth Cymru ac wedi gallu parhau gyda'm datblygiad fel arlunydd ers i fi ymddeol o yrfa mewn gofal iechyd yn 2020.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.