Llun o Catherine Smedley

Catherine Smedley

Cefais fy ngeni yn Northampton ym 1954 ac yn ddiweddarach astudiais Gwrs Sylfaen yno mewn Celfyddyd Gain. Darparodd garlam cynhwysfawr drwy'r rhan fwyaf o'r disgyblaethau celf a oedd ar gael ar y pryd. Dilynwyd hyn gan B.A. mewn Darlunio Celfyddyd Gain yng Nghaerl?r, lle yr ymddengys i ni gael ein rhyddhau yn anarchaidd am dair blynedd i archwilio a chreu.

Yn dilyn hyn bum yn byw am gyfnodau amrywiol ym Machynlleth, Cumbria, y Cotswolds a Chanol Llundain yn gweithio fel garddwr, arlwywr a gwneuthurwr clytwaith. Dim ond yn ddiweddar y symudais yn ôl i Gymru, i Landrindod, wedi treulio 26 mlynedd yn Ne Orllewin Ffrainc gyda'm diweddar bartner, lle yr adnewyddom hen ffermdy, creu gardd furiog, a throsi ysgubor i ofod byw, stiwdio ac oriel.

Y ffordd fwyaf naturiol o greu i mi yw peidio ag arbenigo mewn unrhyw gyfrwng penodol ond gadael i hynny gael ei arwain gan ba bynnag syniad neu bwnc yr wyf am ei archwilio. Gall hyn arwain at lun wedi'i ymffurfio trwy arsylwi, neu ddarn o waith wedi'i greu drwy 'wrando' ar fy isymwybod a gadael i rywbeth gymryd siâp. Yn y bôn, mae'r ddau ddull o weithio yn ymwneud â pherthynas. Rydw i wedi mwynhau'r cyfleoedd prin i gydweithio ag artistiaid eraill erioed, gan rannu syniadau ac arsylwadau.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.