Llun o Natalie Chapman

Natalie Chapman

"Caru ti Mam"

Fy hanes, fy mhresennol a'm gorffennol: rwy'n peintio portreadau sy'n ymgysylltu â hunaniaeth deuluol a phroblemau sy'n seiliedig ar gysylltiadau dynol camweithredol a chofnodi cymdeithas. Rwy'n cael fy nylanwadu gan waith y ffotograffwyr Richard Billingham a Nan Golding, ac mewn ffordd debyg, wedi canolbwyntio ar gyfansoddiadau ciplun digymell, ystod ddirlawn o liwiau, a gwrthrychau achlysurol er mwyn gosod golygfa o fywyd bob dydd.

Rwy wedi dychwelyd at yr un hen ffotograffau o'm plentyndod, er mwyn ail-drefnu fy atgofion a gweithio trwy hanes fy nheulu a'u hymdrechion dyddiol. Rwy i am i'm gwaith deimlo'n heriol ac i ddenu'r arsylwr i ystyried tensiwn amwys, ymdeimlad o wacter, diflastod a phryder.

Mae fy mhroses yn golygu corlannu atgofion gan ddefnyddio cyfuniadau bach o bortreadau teuluol ynghlwm wrth olygfeydd mewnol wedi'u hadalw o'm plentyndod. Caiff yr astudiaethau hyn eu chwyddo i gynfasau mawr er mwyn creu presenoldeb a dwysáu straeon personol gan ddefnyddio mynegiadau bras a gorliwgar. Rwy am greu delweddau am gysylltiadau dynol sy'n dyner ac yn gamweithredol ar yr un pryd.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.