Llun o Stuart Evans

Stuart Evans

Tirwedd, y môr a hanes Canolbarth Cymru sydd yn fy ysbrydoli. Mae byw yn y canolbarth a deall mwy am berthynas weithiol pobl â’r tir yn tarddu o yrfa 40ain mlynedd fel dylunydd gydag Amgueddfa Ceredigion. Yn ddiweddar, rwyf wedi cael fy hudo gan y dorraith o wahanol ffyrdd o lunio ffiniau, terfynau ac ymylon trwy ddefnyddio cerrig, llechen a chlawdd.

Yn ogystal â phaentio a darlunio cododd diddordeb ynof mewn mynegi fy hunan trwy greu printiadau. Rwy'n un o sefydlwyr Argraffwyr Print Aberystwyth ac yn dal i wasanaethu fel cyfarwyddwr.

Enillais MA mewn creu printiadau gydag Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ac ers ymddeol o’r Amgueddfa rwy wedi manteisio ar y cyfle i archwilio fy nghynefin a’r tirwedd lleol o amgylch clogwynni y Borth a ffyrdd newydd o greu delweddau trwy argraffu leino ac ysgythru.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.