Llun o David Alderslade

David Alderslade

Mae fy ngwaith celf yn ymgais onest i gofnodi'r awyrgylch annisgrifiadwy sy'n bresennol mewn llefydd gwyllt ar rai adegau o'r dydd neu'r nos, tirweddau hanesyddol o dan effaith tywydd a golau dramatig, a chyffro taro ar draws fywyd gwyllt yn annisgwyl.

Er bod y testunau hyn yn ysbrydoliaeth draddodiadol ar gyfer gwaith celf, credaf eu bod yn fythol bwysig i brofiad ymwybod dyn. Rwy'n ceisio adnewyddu sylw at y profiadau hyn sy'n gyffredin i bawb drwy gyfryngau dyfrlliw, gouache, creon pensil a phaent acrylig wedi'i chwistrellu, gan ddefnyddio arddull gyfoes a gweledol ddramatig.

Er y byddaf yn aml yn defnyddio manylder i ddisgrifio golygfa, ymddiddoraf yn fwy mewn mynegi ymdeimlad na chywirdeb ffotograffig. Mae paentio yn caniatáu imi gryfhau lliwiau a phwysleisio agweddau ar olygfa tan bod y llun yn cyfuno gwirionedd a ffantasi, yn yr un modd ag y mae atgofion yn fyw ac yn freuddwydiol ar yr un pryd.

Darnau Nodweddiadol

Llun o 'Y Wawr' Llun o 'Addoli'r Haul'

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.