Llun o Vernon Jones

Vernon Jones

Ganwyd Vernon ar fferm yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru. I ddechrau, astudiodd gelf yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac yna enillodd ysgoloriaeth i astudio celf yng Ngholeg Celf Kingston yn Llundain, yn ystod y 1950au cynnar. Ar ôl graddio o Kingston canolbwyntiodd ar gelf fasnachol. Teithiodd yn Iwerddon, a byw mewn gwahanol lefydd yng Nghymru a Lloegr. Mwynhaodd Vernon arlunio, a roedd y gwaith a gynhyrchodd yn ystod y cyfnod hwn yn canolbwyntio ar ddarlunio.

Tra'r oedd yn yr ysgol cafodd ei annog i beidio â siarad neu ddarllen Cymraeg, gan mai Saesneg oedd iaith yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, yn ystod ei arddegau, dechreuodd ddarllen yn yr iaith Gymraeg, ac fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf datblygodd gysylltiad dwfn a dealltwriaeth o ddiwylliant a chwedlau Cymru a Cheltaidd. Gellir gweld y diddordeb hwn yn ei waith: er enghraifft, cyfeirir at y Dduwies Ceffylau Celtaidd, Epona sy'n gymeriad â chysylltiad agos i'r feistres geffylau, Rhiannon o fytholeg Gymraeg. Mae'r gwaith sy'n cael ei arddangos yn cynnwys gludweithiau tri dimensiwn gwreiddiol iawn, sy'n defnyddio amrywiaeth o bethau a darganfuwyd - Ffrangeg: objets trouvés - gan gyfeirio at ddiwylliant a chwedlau Cymru. Mae Vernon yn credu y dylai gweithiau celf greu ymateb emosiynol yn y gwyliwr, yn debyg iawn i farddoniaeth a cherddoriaeth.