Maureen Alderslade
Yn 2015 symudais i Geredigion o Wiltshire, lle cefais fy ngeni, a bûm yn byw ac yn gweithio yno tan fy ymddeoliad. Cefais fy magu gyda chariad dwfn a diysgog, ac â pharch tuag at natur a'r wlad. Rwyf wastad wedi paentio, mae'n rhan hanfodol o fy mywyd.
Er nad wyf wedi derbyn unrhyw addysg gelf ffurfiol, bum yn ddigon ffodus i fynychu dosbarth celf dan arweiniad yr arlunydd tirwedd Anna Teasdale, ac roedd hi'n ddylanwad mawr. Rwy'n paentio olew a dyfrlliw yn bennaf, ac rwy'n cael fy ysbrydoli gan liw a golau. Rwyf wedi paentio llawer o wahanol destunau, ond ers dod i fyw yng Nghwm Rheidol tirweddau yw fy mhrif ffocws.
Mae Gorllewin Cymru yn llawn o lefydd o harddwch eithriadol, a all ysgogi'r galon a'r ysbryd. Rwy'n gweld rhaeadrau yn arbennig o hudolus, ac mae iddyn nhw rinwedd dyrchafol a syfrdanol yr wyf yn ymdrechu i'w bortreadu. Yn 2017 enillais Wobr Gelf Tabernacle MoMa Machynlleth.
Darnau Nodweddiadol
I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.
Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.