Llun o Louise Freeman

Louise Freeman

Astudiais Gelfyddyd Gain o dan diwtoriaerh Dave Shepherd a Harvey Hood, gan arbenigo mewn Cerflunio yn Howard Gardens, UWIC. Yna es i ymlaen i astudio TAR mewn Celf a Dylunio, a llwyddais i gael swydd addysgu yng Nghaerdydd. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dechreuais arbrofi gyda serameg a sylweddolais mai clai yw'r deunydd lluniadu yr wyf yn ymateb iddo. Caniataodd y broses o gerflunio imi archwilio iaith sylfaenol celf drwy ffurf, siâp, gwead a lliw.

Arweiniodd fy awch am gelf i mi redeg a rheoli dwy Oriel: Quirky Art Ceramics yn Ellesmere a Quirky Art Studio Gallery yn Llangollen, gan gefnogi artistiaid lleol a phroffesiynol, ac ar yr un pryd ddatblygu fy nghronfa sgiliau fy hun.

Ar hyd fy siwrnai artistig darganfyddais fod 'sgwarnogod' wedi dod o hyd i mi a dod yn arbenigedd i mi, a byddwn yn aml yn cael fy nisgrifio fel "menyw'r sgwarnogod" a chwsmeriaid yn dychwelyd i brynu ffrind ar gyfer eu sgwarnog digri.

Erbyn hyn rwy'n mwynhau cerflunio amrywiaeth o grochenwaith, o ieir i ffurfiau ffigurol, yn fy nghwt ar waelod yr ardd. Rwy'n cerflunio darnau serameg unigryw, wedi'u gwneud â llaw, gan fy mod i'n hoffi'r elfen hon o unigolrwydd. Ar bob cerflun rwy'n stampio fy logo gan gadarnhau ei fod yn ddarn gwreiddiol, dilys.

Mae'n bwysig i mi fod ysbryd a phersonoliaeth y darn yn ymgysylltu â'r cwsmer. Gellir disgrifio fy ngwaith fel gwaith mympwyol, ond gydag elfen anesmwyth, er nad wyf erioed wedi gwylio 'Watership Down', er mawr syndod i'm cwsmeriaid!

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.