Llun o Andrew Richards

Andrew Richards

Gweadau'r Ddaear

Yn fy nghyfres newydd o waith, rwyf wedi fy ysbrydoli gan yr hyn yr wyf wedi ei weld mewn tirweddau yn ystod fy mlynyddoedd o ddringo a cherdded, ac rwy'n ceisio crisialu hanfod gweadau'r ddaear drwy gyfrwng clai. Mae'r gyfres "Gweadau'r Ddaear" yn uchafbwynt ar dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad mewn creu a thanio serameg, ac yn corlannu fy ngwreiddiau Cymreig.

Rwy'n mynd ati i wneud fy ngwaith yn ddigymell ac yn uniongyrchol, gan ddychmygu'r ffurf a'i arwynebau wrth i mi weithio arnyn nhw. Mae'r ffordd rydw i'n newid ac yn haenu'r deunyddiau rwy'n eu hychwanegu at y clai yn pwysleisio plastigrwydd a rhinweddau arwyneb y deunydd, gan greu naws tirwedd. Rwy'n symud siâp y llestr o fod yn botyn clai syml i rywbeth mwy haniaethol, rhywbeth ag ansawdd artistig barhaus.

Yn fy ngwaith, rwy'n dechrau gyda ffurfiau clai wedi'u taflu neu wedi'u hadeiladu â llaw, ac rwy'n defnyddio'r droell i siapio'r wyneb allanol. Er y gallai fod gen i syniad o siâp y cynnyrch terfynol, yn ystod y broses o'i wneud, drwy drin yr wyneb yn ofalus â deunyddiau naturiol fel cerrig gwaddodol clastig ac ocsidiau, y mae ymddangosiad y llestr yn cael ei greu. Mae'r gyfres "Gweadau'r Ddaear" yn adlewyrchu tirwedd mynyddoedd ac arfordir Cymru. Mae haenu cerrig gwaddodol clastig 200 miliwn mlwydd oed, cerrig cwarts traeth, gwenithfaen, copr Ynys Môn wedi'i frwsio a'i haenu, a gwydredd yn ychwanegu effeithiau lliw a gwead mewn ffordd sy'n gytûn â naws gyffredinol pob darn, gan wneud pob llestr yn unigryw ac yn arbennig.

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.