Gini Wade
Astudiodd Gini Wade argraffu a dylunio graffig yn Ysgol Ganolog Celf a Chrefft (Central St Martins bellach) a bu'n gweithio fel darlunydd ac awdur llyfrau plant am nifer o flynyddoedd. Roedd hi'n fyfyrwraig ôl-raddedig yn Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 2007 a 2010 lle enillodd MA gyda rhagoriaeth mewn Clefyddyd Gain gan arbenigo mewn lithograffeg gyda Paul Croft RE.
Erbyn hyn mae hi'n byw a gweithio yng ngaholbarth Cymru, ac ar ôl gweithio ar friffiau darlunio ers cyhyd, mae hi nawr yn mwynhau'r rhyddid i ddewis ei phynciau ei hun. Mae ei gwaith yn tynnu ar chwedlau a breuddwydion, gyda thamaid o'r ochr dywyll. Mae hi hefyd yn DJ, ac mae dawns a dathliadau yn ysbrydoli llawer o'i delweddau. Mae hi hefyd yn creu animeiddiadau.
Mae hi wedi dysgu argraffu yn Hong Kong a Guatemala, ac mae hi wedi cynnal gweithdai lithograffeg ar gyfer Ymddiriedolaeth Sidney Nolan, Swydd Henffordd, ac ar gyfer Argraffwyr Aberystwyth.
Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau preifat ledled y byd, ac hefyd mewn casgliadau cyhoeddus: Casgliad Llyfrgell Wellcome, y V and A, Amgueddfa Gelf Zuckerman, UDA, Oriel Gelf Ewing, UDA, Sefydliad Celf Gain Hunan, Casgliad Prifysgol Aberystywth, a Chasgliad Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru. Mae hi'n gyfarwyddwr ar Argraffwyr Aberystwyth ac yn cyfrannu erthyglau at Printmaking Today.
Darnau Nodweddiadol
I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.
Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.