Kim James-Williams
Artist trosiadol o Orllewin Cymru yw Kim James-Williams, yn arbenigo mewn inc a dyfrlliw.
"Rwy'n darlunio unrhywbeth sy'n cymryd fy mryd: cychod, cerddwyr cŵn, tonnau, coetsiau babis, rhwydi pysgotwyr a dellt môr, cysgodion canghennau coed, capeli, cerrig mân a phicnics!"
Nôd y gwaith yw gweld yr aruchel yn y pethau bob dydd, dynol, ac edrych gyda llygad newydd ar bethau sydd wedi cael eu gweld a'u darlunio ganwaith eisoes. Mae'n edrych am graidd a hanfod ei phwnc, ar adegau yn gwyro tuag at yr abstract.
Disgyrchiant sy'n ennill y frwydr gyda'r inc a'r dyfrlliw gan ei dynnu i lawr y ddalen a'n atgoffa mai dim ond inc ar fwydion coed yw darlun, cofnod o'r broses o edrych a gweld a llun o rywbeth, rhywle. Hyn sydd yn gwneud darluniadau Kim yn synfyfyriol yn ogystal ag archwiliadwy, yn ceisio darganfod cysylltiadau, unigrywedd a byrhoedledd bywyd.
Astudiodd Kim yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Caerfyrddin (Sylfaen), BA anrhydedd Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Winchester ac MA Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Darnau Nodweddiadol
I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.
Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.