Philip Huckin
Daeth Philip Huckin i fyw yn Nghymru yn 2010 wedi gyrfa mewn Addysg. Astudiodd am radd mewn Celf a Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1970au a dychwelodd i'w hen brifysgol i astudio am MA yn y Celfyddydau Gweledol yn 2010. Canolbwynt ei waith yw tirwedd Ceredigion, y bryniau, yr adfeilion a’r arfordir hardd, sy'n ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth. Mae hefyd wedi cydweithio gydag awdur a bardd Cymraeg i gynhyrchu tri llyfr sy’n ceisio hybu hanes y tirwedd trwy ei archaeoleg, ei hanes a’i chwedlau, ar gyfer oedolion a phlant. Mae gan Philip waith mewn Casgliadau Cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Oriel MOMA Machynlleth. Mae ei waith hefyd i’w gael mewn casgliadau Prydeinig a Rhyngwladol.
- Casgliadau Cenedlaethol Cymru
- Oriel MOMA Machynlleth
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Orielau
- MOMA Machynlleth
- Oriel Weston Park House Swydd Amwythig
- Oriel Koywood Caerdydd
- Fountains Fine Art Llandeilo
- Oriel Gweithdy Cymraeg Abergwaun
- Oriel Rhiannon Tregaron
- Llyfrau
- Hud Afon Arth - Gwasg Gwynfil, 2015
- Ysbryd Ystrad Fflur - Gwasg Gwynfil, 2015
- Cwm y Wrach - Atebol, 2020
Darnau Nodweddiadol
I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.