Llun o Wynne Melville Jones

Wynne Melville Jones

Mae Wynne Melville Jones (Wyn Mel) yn enw cyfarwydd yn sgil ei waith arloesol ym myd cysylltiadau cyhoeddus a'i ymwneud â mudiad yr Urdd. Yn gyn-fyfyriwr celf, mae bellach wedi dychwelyd at ei ddiddordeb pennaf - celfyddyd gain.

Wedi ailgydio yn y brwsh paent, rhoddodd her i'w hun - paentio Cors Caron yn y pedwar tymor. Mae iconau Cymreig yn gyson yn dal ei lygaid a daw ei ysbrydoliaeth o'i fagwraeth yn Nhregaron ac o dreftadaeth a diwylliant y cymunedau yn y gorllewin. Does dim dwywaith bod harddwch Sir Benfro yn ei swyno'n fawr.

Mae nifer o'i luniau wedi creu diddordeb ymhell y tu hwnt i Gymru. Mae ei ddarlun o Soar-y-Mynydd yn eiddo i gyn-Arlywydd UDA Jimmy Carter ac mae ei lun o Ynys Llanddwyn ym meddiant casglwr celf o'r Almaen. Mae ei ddarlun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig wedi creu cryn ddiddordeb yn America ac mae'r llun bellach yn Graceland Tennessee, cyn gartref Elvis sydd nawr yn amgueddfa ac yn archif.

Mae'n gweithio o'i gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre), Ceredigion ac yn weithgar yn y gymuned, yn Gymro brwd ac yn Gardi balch. Mae arddangosfeydd o'i waith wedi eu cynnal yn Aberystwyth, Abergwaun, Aberaeron, Tregaron, Y Bala, Llandeilo, Caerdydd a Llundain. Ei nod yw ceisio cyfleu cymeriad a naws unigryw Cymru drwy gyfrwng paent ar ganfas.

Darnau Nodweddiadol

Llun o 'Gaeafol' Llun o 'Rhes y Capel, Merthyr Tudful'

I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.

www.orielwynmel.co.uk

Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.