Ali Scott
Mae Ali yn ffeltwraig brofiadol sy'n angerddol am greu 'paentiadau' gyda gwlân lliwgar. Ers gadael Coleg Celf yn niwedd y saithdegau, mae Ali wedi byw a gweithio yng nghefn gwlad Ceredigion. Daeth ar draws y grefft hynafol o ffeltio yn 2004, a dyna fu ei chyfrwng dewisol ers hynny.
Ymateb i'r amryw lecynnau gwyllt prydferth o'i chwmpas yma yng Nghymru yw gweithiau Ali, wedi eu hysbrydoli gan gylch y tymhorau, goleuni cyfnewidiol, lliwiau a gwead y dirwedd a'r arfordir.
Ffeltio 'gwlyb' yw arbenigedd Ali, gan ddefnyddio gwlân Merino o ffynonellau moesegol yn bennaf, wedi ei gyfuno weithiau gyda chnu lleol, ffibrau llysieuol, edafedd wedi ei nyddu neu decstilau. Mae gweithio gyda gwlân a ffeibr i'w weld yn syml ar yr olwg gyntaf, ond mae iddo bosibiliadau di-ben-draw, gyda chanlyniadau annisgwyl ar adegau, sy'n cadw'r gwaith yn ddeinamig. Mae Ali wrth ei bodd yn 'paentio' gyda thopiau gwlân (cnu wedi eu cribo a'u lliwio), gan adeiladu haenau o ffibr i greu dyfnder lliw. Gall gymryd rhai oriau i osod allan y cynllun, a phan fydd wedi ei gwblhau bydd y broses o ffeltio gwlyb yn dechrau. Ychwanegir sebon a dŵr cynnes, yna gwasgu, rhwbio, rholio a lluchio nes dechrau'r trawsnewidiad. Wrth i'r ffibrau glymu at ei gilydd, rhaid gweithio'r deunydd yn egniol i'w gywasgu a'i gryfhau. Wedi gorffen y broses, mae'r gwaith yn barod i'w ymestyn ar ffrâm ar gyfer ei hongian.
"Mae creu'r darluniau yma yn hyfrydwch o'r mwyaf i mi, a chaf bleser a boddhad arbennig o weithio yn y cyfrwng hwn."
Mae Ali wedi arddangos ei gwaith yn eang ac mae darnau unigol ganddi mewn sawl casgliad preifat yn y DU a thramor. Mae'n aelod o'r International Feltmakers Association, Origin (Caerfyrddin), a Llwybr Celf Ceredigion. Yn ogystal â'r gweithiau mawr, mae Ali yn gwerthu cyfres o gardiau cyfarch ac mae'n brofiadol yn cynnal gweithdai. Mae hefyd yn hapus i dderbyn comisiynau.
Darnau Nodweddiadol
I gysylltu â'r artist ynglyn â'r gwaith, neu i drafod comisiwn, cysylltwch drwy law'r Oriel gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar droedyn y dudalen os gwelwch yn dda.
Eitemau a'u Harddangoswyd yn Flaenorol
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am yr eitemau hyn, neu am ddarnau eraill gan yr un artist.